Ffurfiwyd Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru (AADW) yng nghanol y 1970au. Rhan o’i chylch gwaith, fel ACME yn Llundain, oedd edrych am stiwdios fforddiadwy i artistiaid, a’u gweinyddu. Erbyn y diwedd roedd yn rhedeg nifer o adeiladau ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys dwy hen warws segur yng Nghaerdydd. Ym 1980 cymerodd AADW feddiant ar 54b/c Stryd Bute, a buan y sefydlodd ei hun fel adeilad stiwdio llwyddiannus. Pan ddaeth AADW i ben fel sefydliad hyfyw, ffurfiodd aelodau’r stiwdio grŵp dan yr enw Artistiaid Butetown i barhau i weithio yn yr adeilad. Erbyn y 90au roedd ffabrig yr adeilad wedi gwaethygu’n ddifrifol, roedd dŵr yn dod i mewn ac roedd rhai lloriau’n rhy ddrwg i’w defnyddio. Cytunodd Cyngor Dinas Caerdydd i ddod yn rhan berchnogion, ar y cyd ag AADW, a thalu am rywfaint o waith atgyweirio yn ystod y cyfnod hwn.
Ym 1997 roedd cyflwr yr adeilad yn enbyd, ac roedd dewis gan y grŵp naill ai i adael neu i geisio canfod ateb. Cymerwyd yr ail ddewis. I ddechrau, ailgyfansoddodd y grŵp ei hun yn gwmni cyfyngedig trwy warant, gyda’r nod o sefydlu ffordd ymlaen a cheisio ymchwilio i botensial yr adeilad fel canolfan a fyddai’n cynnwys stiwdios yn ogystal ag oriel gelf gyhoeddus. Rhoddwyd meddiant yr adeilad yn rhodd i Artistiaid Butetown gan Gyngor Dinas Caerdydd ac ymddiriedolwyr AADW. Roedd y rhodd hwn yn cynnwys amod fod yn rhaid i’r adeilad barhau’n gyfleuster celf cyhoeddus. Yn yr un flwyddyn, cychwynnodd y cwmni y prosiect cyfalaf a fyddai maes o law’n trwsio ac yn ailwampio’r adeilad. Cwblhawyd y prosiect hwn o’r diwedd yn 2002, ar gost o £1,052,660. Cafwyd cyllid yn bennaf o Gronfa Loteri Cyngor y Celfyddydau, gyda chyfraniadau eraill gan Gyngor Dinas Caerdydd, CADW, Sefydliad Chwaraeon a’r Celfyddydau, a hen Gorfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd.
Mae’r adeilad bellach yn aros yn ased am byth i’r cwmni ac fel cyfleuster celf i ddinas Caerdydd.