≡ Menu

Nod y Gweithdai Ysgolion yw addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc i fod â hyder yn eu hiaith weledol eu hunain.

Contact

Contact Maggie James
E: [email protected]

DOWNLOAD BOOKING FORM

Gwahoddir grwpiau ysgol i ymweld â’r oriel yn ystod arddangosfeydd. Os hoffai eich ysgol chi gymryd rhan mewn gweithdy gydag artist llenwch y ffurflen archebu (gweler y pdf isod) a naill ai ei phostio neu ei ebostio yn ôl i BayArt. Nod y sesiynau ymarferol hyn yw addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc i fod â hyder yn eu creadigrwydd eu hunain ac i ddysgu mwy am Gelf. Gall ymweliad â’r oriel helpu i ateb y cwestiwn pam y mae’n bwysig gweld gwrthrychau go iawn mewn oriel a sut y rhoddwn werth i wrthrychau. Byddant yn gallu cofnodi a dadansoddi sylwadau a wnaethant eu hunain am y gwaith sy’n cael ei ddangos. Cânt fewnwelediad i’r gwaith, a byddant yn gallu myfyrio ar eu profiad a’i asesu. Gallai gweithio gydag artist mewn sefyllfa y tu allan i amgylchedd yr ysgol symbylu dewisiadau ymchwil annibynnol hefyd.

‘Mae BayArt yn adnodd hynod o werthfawr yn ein cymuned leol … mae’r ymweliadau a’r gweithdai niferus yr ydym wedi cymryd rhan ynddynt wedi annog ein disgyblion i ymgysylltu â gweithiau celf ac arteffactau, a datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth’.
Shubnam Aziz, Ysgol Gynradd Mount Stuart

‘Rydym wedi gallu rhoi profiad uniongyrchol i’r disgyblion o Gelf gyfoes yng Nghymru, tra’n ehangu eu profiad o gysyniadau a syniadau a wyntyllwyd yn yr ystafell ddosbarth’.
Paul, Ysgol Uwchradd Llanisien

‘Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil gweithio gyda BayArt; mae’r disgyblion wedi cael dirnad y pwnc mewn modd na ellir ei gyflawni fel arfer o ddydd i ddydd … byddwn yn gwerthfawrogi’n fawr gael gweithio gyda nhw yn y dyfodol.’
Nerys Griffiths, Pennaeth Celf, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Barri

‘Ffantastig! Diwrnod cyfan o gael y disgyblion yn ddiwyd ac yn mwynhau! Yn bendant fe enillodd y disgyblion hyder o’r profiad’.
Mrs McCran, Ysgol Iau Glyncoed