≡ Menu

Helpwch BayArt i ddatblygu
ymhellach drwy ddod yn Gefnogwr

Rydym yn cefnogi artistiaid ers dros ddeuddeng mlynedd, gan roi cyfle iddynt ddangos eu gwaith a siapio ein digwyddiadau a’n prosiectau addysgol gyda ni fel rhan o BayArt. Cynigiwn stiwdios fforddiadwy yn Butetown i helpu artistiaid i greu gwaith newydd mewn amgylchedd braf a chefnogol.

Mae’r hyn a wnawn yn cyrraedd llu o wahanol bobl – ysgolion, pobl ifanc, athrawon, teuluoedd a’n cynulleidfa selog – fel bod celfyddyd ac artistiaid yn rhan o’r gymuned yma yng Nghaerdydd.

Ein nod yw parhau i wneud i hyn oll ddigwydd, ac mae eich cefnogaeth chi yn wirioneddol bwysig i hyn: gallwch roi un cyfraniad ariannol, neu ddod yn un o Gyfeillion BayArt. Bydd eich rhodd yn cyfrannu at ddatblygiad a chynaliadwyedd un o’r prif gyrff celfyddydau yn ne Cymru.

Os gwelwch yn dda, ymunwch â Chyfeillion BayArt, i’n galluogi ni i lunio rhaglen am flwyddyn gyfan, neu cefnogwch arddangosfeydd unigol a phrosiectau addysgol unigol. Gallwch wneud hyn fel Cyfaill, Cefnogwr, drwy Nawdd Corfforaethol neu drwy wneud rhodd.

Bydd Cyfeillion BayArt yn cael:
Cydnabyddiaeth ar y wefan a phob deunydd hyrwyddo
Gwahoddiadau i agoriad arddangosfeydd
Gwahoddiadau i ddigwyddiadau’r Cyfeillion a sgyrsiau yn yr oriel
Aelodaeth unigol £40
Aelodaeth pâr £60
Caiff Noddwyr Corfforaethol ddefnyddio gofod yr oriel ddwy waith y flwyddyn ar gyfer digwyddiadau corfforaethol, ac fe sicrhawn fod eich enw ar bob cyhoeddusrwydd fel prif noddwr. Mae gofod yr oriel yn lle cynnes, unigryw ar gyfer croesawu gwesteion a rhwydweithio. Fel Cefnogwr cewch ostyngiad 45% ar bris llogi’r oriel.
Aelodaeth cefnogwr (unigol) £250
Nawdd Corfforaethol o £500-1,000
Os hoffech gael gwybod mwy Cysylltwch â ni

 

Llun: © William Clifford. Cartref. Gwobr Gerflunio Jerwood 2007