≡ Menu
Paper Exchange exhibition 2019

BayArt – ei chalon wedi’i harwain gan artistiaid

Menter dan arweiniad artistiaid yw BayArt yn ei chalon, wedi ymgartrefu mewn gofod creadigol hardd ac agos-atoch-chi yn un o strydoedd prysur Bae Caerdydd. Mae Artistiaid Butetown yn gweithio mewn 16 stiwdio uwchben yr oriel, ac mae yno fflat stiwdio addas i artist preswyl neu ar gyfer ymchwil. Pwrpas oriel BayArt yw cefnogi ymarfer celfyddyd gain, trwy gynnig llwyfan arddangos i lu o artistiaid newydd, a rhai ar ganol eu gyrfa, o Gymru a thu hwnt. Mae BayArt hefyd yn cynnig dehongli ei harddangosfeydd i amryw o wahanol gynulleidfaoedd drwy sgyrsiau artistiaid, seminarau a gweithdai. Yn allweddol i bob sioe estynnir gwahoddiad i ysgolion weithio gyda’r oriel ar brosiectau i ddatblygu dealltwriaeth plant ac athrawon o gelf gyfoes. Bod yn gynhwysol ac yn agored yw’r nod, gan weld yr oriel fel lle creadigol lle gellir profi ac archwilio celfyddyd. Artistiaid biau’r oriel ac artistiaid sy’n ei harwain. Yn ein rhaglen arddangos ac addysgu, artistiaid sy’n creu, yn curadu, yn dehongli ac yn rhoi syniadau ar waith. Mae syniad a ffaith celfyddyd wrth galon popeth a wnawn.
 
about2

FFLAT STIWDIO

Mae’r adeilad yn cynnwys fflat/stiwdio wedi’i dodrefnu’n dda ac a fwriedir i hwyluso cynlluniau preswyl a chyfnewid rhyngwladol gydag artistiaid o Gymru. Mae’n hunangynhaliol gyda mynedfa ar wahân ac mae cyfleusterau byw da yno gyda golygfeydd gwych dros y Bae o’r balconi mawr. Gweddol yw’r stiwdio o ran maint, ond mae’n ymarferol, ac mae’r golau’n dda.

Hyd yma, mae wedi cartrefu artistiaid o Indonesia (drwy gwrteisi Visiting Arts), yr Unol Daleithiau, yr Iseldiroedd, Awstralia a Sbaen. O’r artistiaid niferus fu’n aros yno, cafodd Merlin James fudd o arhosiad hir, cyn arddangos yn BayArt yn ogystal â chynrychioli Cymru yn Biennale Fenis. Mae’r fflat yn llawn am y cyfan o 2015/16.

ARTISTIAID BUTETOWN

TMae artistiaid y stiwdio’n griw â phroffil gweddol uchel yng nghyd-destun Cymru. Arddangosant ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol, mae rhai wedi ennill gwobrau o fri ac mae llawer wedi cynrychioli Cymru’n rhyngwladol. I gael gwybod mwy cliciwch ar broffiliau Artistiaid Butetown

Artist curator

Philip Nicol

Artist educator

Maggie James