≡ Menu

Collwyd Pob Cydlyniad? Ffrydiau hanesyddol mewn bywyd llonydd cyfoes 23.09.14 – 17.10.14

Mae’r arddangosfa hon yn hyrwyddo’r syniad o sawl sgwrs yn gwau trwy’i gilydd ar draws amser a gofod, presennol a gorffennol. Mae’r sgyrsiau hyn yn digwydd rhwng artistiaid a gwrthrychau, gwrthrychau a gwrthrychau, a rhwng curadur ac artistiaid o ddwy wlad, yr Iseldiroedd a’r Deyrnas Unedig. Sgyrsiau ydynt am fywyd llonydd, genre dirodres ac iddo hanes gwych, a’r modd y mae ei wreiddiau hanesyddol ym myd arlunio’r Iseldiroedd yn yr 17eg ganrif yn cofleidio ac yn llifo trwy arferion cyfoes peintio a ffotograffiaeth heddiw.
Artistiaid: Emma Bennett, Clare Chapman, Kenne Grégoire, David Gould, Piet Groenendijk, Clive Hicks-Jenkins, Jacco Hinke, Heather James, Alan Salisbury, Margriet Smulders, Krista van der Niet, Dawn Woolley.

All Coherence Gone on Storify

Llun: Krista van der Niet. Butterflies